| Myfanwy Pa ham mae dicter, O Myfanwy Yn llenwi'th lygaid duon ddi? A'th ruddiau tirion, O Myfanwy Heb wrido wrth fy ngweled i? Pa le mae'r wen oedd ar dy wefus Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffol? Pa le mae sain dy eiriau melys Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl? Pa beth a wneuthym, O Myfanwy I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd? Ai chwarae oeddit, O Myfanwy  thanau euraidd serch dy fardd? Wyt eiddo im drwy gywir amod Ai gormod cadw'th air i mi? Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy Heb gael dy galon gyda hi. Myfanwy boed yr holl o'th fywyd Dan heulwen disglair canol dydd A boed i rosyn gwridog ienctid I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd. Aug hofiar oll o'th add ewidion A wnest i rywun, 'ngeneth ddel A rho dy law, Myfanwy dirion I ddim ond dweud y gair "Ffarwel". |
||