| Pant Corlan
yr Wyn (Let Now The Harp) Mehefin ddaeth, fugeiliaid mwyn Ein defaid hwnt ynt heb eu hwyn Yn ffoi'n lluddedig dan y twyn I lyn neu frwyn am loches. Y gwlanog gnwd i'r wyn a fu Yn wenwisg deg drwy'r gaeaf du Dymunant nawr i'r blaidd neu'r ci Ei gwisgo yn eu lle, neu ni O'u pwysig gnwd i feddu'r cnu Sy'n llethu rhai rhy gynnes. O'r weirglodd gul, a'r darren lom Yr oenig drown, a'r ddafad drom Yn siw cānt fynd, er maint y siom Lle gwelom nesaf geulan Dan honno, heb wneud iddi gam Mor wyn ā'r oen, ni wnawn ei fam Ac wedi'i channu, heb ddweud pam Ei gwisg a gneifiwn, ac heb nam Am ei gwiriondeb ā ar lam Ei dinam ryddid yngan. |
||