| Suo Gan (Sleep My Baby) Huna blentyn yn fy mynwes Clyd a chynnes ydyw hon Breichiau mam sy'n dyn am danat, Cariad mam sy dan fy mron Ni cha dim amharu'th gyntun Ni wna undyn â thi gam Huna'n dawel, anwyl blentyn Huna'n fwyn ar fron dy fam. Huna'n dawel, heno, huna, Huna'n fwyn, y tlws ei lun Pam yr wyt yn awr yn gwenu, Gwenu'n dirion yn dy hun? Ai angylion fry sy'n gwenu Arnat ti yn gwenu'n llon Tithau'n gwenu'n ol dan huno Huno'n dawel ar fy mron? Paid ag ofni, dim ond deilen Gura, gura ar y ddor Paid ag ofni, ton fach unig Sua, sua ar lan y mor Huna blentyn, nid oes yma Ddim i roddi iti fraw Gwena'n dawel yn fy mynwes Ar yr engyl gwynion draw. English Sleep my baby on my bosom Warm and cosy it will prove Round thee mother's arms are folding In her heart a mother's love. Then shall no one come to harm thee Nought shall ever break thy rest Sleep my darling baby quiet Sleep on mother's gentle breast. |
||